R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd yn achos unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0131(FLG)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn dod â budd i bobl Cymru? OAQ(5)0141(FLG)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon? OAQ(5)0137(FLG) TYNNWYD YN ÔL
4. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu amrywiaeth yn sefydliadau democrataidd Cymru? OAQ(5)0142(FLG)
5. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella lefelau amrywiaeth yn llywodraeth leol Cymru yng ngoleuni etholiadau'r cynghorau lleol? OAQ(5)0143(FLG)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am asedau sy'n eiddo i awdurdodau lleol? OAQ(5)0134(FLG)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0136(FLG)
8. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd? OAQ(5)0140(FLG)
9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru ar fater yr hysbysiadau cosb benodedig? OAQ(5)0129(FLG)
10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol? OAQ(5)0133(FLG)
11. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol? OAQ(5)0144(FLG)W TYNNWYD YN ÔL
12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gontractau caffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0135(FLG)
13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): I ba raddau y mae ein hawdurdodau lleol yn cynrychioli amrywiaeth poblogaeth Cymru yn dilyn yr etholiadau lleol y mis diwethaf? OAQ(5)0138(FLG)
14. Rhianon Passmore (Islwyn): Pa drafodaethau y mae'r Grŵp Cynghori ar Ewrop wedi'u cael â chynrychiolwyr o lywodraethau datganoledig eraill ynghylch trafodaethau'r DU am adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0139(FLG)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ(5)0132(FLG)